Andrew R T Davies (Llun y Ceidwadwyr)
Mae’r Ceidwadwyr wedi methu ag ennill pob un o’u seddi targed yn etholiadau’r Cynulliad.

Fe ddiflannodd eu gobaith ola’ ychydig cyn hanner awr wedi saith wrth i’r gweinidog Llafur, Jane Hutt, ddal sedd Bro Morgannwg gyda mwyafrif o fwy na 700.

Roedd y Ceidwadwyr wedi ymladd yn galed yno ar ôl iddyn nhw gadarnhau eu gafael ar y sedd yn etholiadau San Steffan y llynedd, trwy Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

Mae rhai eisoes wedi codi cwestiynau am ymgyrch y blaid.

‘Peidiwch â beio Andrew’

Mae un o gyn-ACau’r blaid wedi galw ar bobol i beidio â rhoi’r bai ar arweinydd y blaid Gymreig, Andrew R T Davies, am y methiant.

Er hynny, yn ôl Jonathan Morgan, cyn-AC Gogledd Caerdydd, fe ddylai’r blaid fod wedi gwneud yn well.

Roedd yn rhoi’r bai ar ffactorau Prydeinig, gan gynnwys problemau’r diwydiant dur, refferendwm Ewrop a sgandal papurau Panama.

Dyw’r Ceidwadwyr ddim wedi colli seddi chwaith.