Llys y Goron Caerdydd (Llun Golwg360)
Mae mam o ardal Abertyleri, wedi siarad am ei rhwystredigaeth nad oedd meddygon yn gallu dod o hyd i’r hyn oedd yn bod ar ei mab, wythnosau cyn iddo farw.

Fe wnaeth mab 12 oed Carol Morse, Ryan, farw yn eu cartref ym Mrynithel, ar ôl salwch a oedd wedi gwneud iddo golli pwysau’n ddychrynllyd tros bedwar mis.

Roedd hi’n siarad mewn achos yn Llys y Goron Caerdydd lle mae dau feddyg teulu o Abertyleri, Dr Lindsey Thomas, 42, a Dr Joanne Rudling, 46, wedi’u cyhuddo o ddynladdiad wedi’i achosi gan esgeulustod mawr.

Roedden nhw’n meddwl mai feirws oedd ar Ryan Morse, ond roedd post mortem diweddarach yn dangos fod ganddo Glefyd Addison, cyflwr prin ond un sy’n gallu cael ei drin.

Gwadu’r cyhuddiadau

Dywedodd yr erlynydd John Price QC, nad oedd disgwyl i’r meddygon roi diagnosis Clefyd Addison, o ystyried mor brin yw’r cyflwr ond y dylen nhw fod wedi sicrhau bod meddyg wedi mynd i’w gartref at Ryan, neu y dylen nhw fod wedi ffonio ambiwlans ar 7 Rhagfy, ddiwrnod cyn i’r bachgen farw.

Fe fyddai Ryan yn fyw heddiw pe bai wedi cael sylw meddygol yn syth, meddai wrth y llys.

Mae’r ddau feddyg yn gwadu’r cyhuddiadau, gyda Dr Rudling hefyd yn gwadu ceisio newid nodiadau meddygol Ryan.

Mae disgwyl i’r achos barhau am bedair wythnos.