Leanne Wood yn ymgyrchu (Llun Plaid Cymru)
Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn dweud bod ei buddugoliaeth yn Y Rhondda yn “wawr newydd” i’r etholaeth  honno.

Ac fe fydd hynny’n sail i ymdrech newydd gan y Blaid yn y Cymoedd, meddai, ar ôl curo’r Gweinidog Llafur, Leighton Andrews.

Roedd hi hefyd yn falch o berfformiad Plaid Cymru yng Nghaerffili a Blaenau Gwent, lle daethon nhw’n agos at guro Llafur.

Hain – ‘ddim digon da gan Lafur’

Mae cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, yn dweud y dylai Llafur fod wedi gwneud yn llawer gwell, er iddyn nhw gadw pob sedd ond un hyd yn hyn.

Roedd methiant i wneud yn well adeg Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn rhoi neges glir i’r Blaid Lafur Brydeinig, meddai.

“Fe ddylen ni fod wedi bod yn ei sgubo hi yn y Cymoedd,” meddai ar Radio Wales. “Dydyn ni ddim wedi gwneud yn wirioneddol dda; dydyn ni ddim wedi bod yn cael mwyafrifoedd sylweddol.”