Gwaith dur Port Talbot Llun: PA
Mae grŵp o weithwyr a rheolwyr Tata Steel wedi cadarnhau ei fod wedi cyflwyno cais swyddogol yn datgan ei ddiddordeb mewn prynu asedau’r cwmni yn y DU.

Daeth y cyhoeddiad gan y grŵp Excalibur Steel UK prynhawn ma wrth i’r cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau am brynu’r busnes ddod i ben.

Liberty House, sy’n cael ei redeg gan Sanjeev Gupta, yw’r ail gwmni sydd cyflwyno cais swyddogol i brynu asedau Tata yn y DU, sy’n cynnwys y safle enfawr ym Mhort Talbot.

Yn ôl llefarydd ar ran Liberty House, maen nhw wedi sefydlu tîm o arbenigwyr mewnol ac allanol i lunio’r cynnig.

Fe gyhoeddodd cwmni dur Tata fis diwethaf y bydden nhw’n gwerthu eu holl safleoedd yn y DU yn dilyn colledion mawr yn y busnes, gan roi miloedd o swyddi yn y fantol.

‘Hyderus’

Dywedodd Stuart Wilkie, prif weithredwr Excalibur Steel UK, ac un o  gyn-gyfarwyddwyr Tata, fod y prosiect wedi “gwneud camau mawr mewn cyfnod byr iawn.” Fe fyddai’n golygu bod gan weithwyr a rheolwyr gyfran ym mherchnogaeth y busnes.

“Rydym yn credu bod gennym ni nifer fawr o’r elfennau sydd eu hangen yn eu lle i wneud hyn yn llwyddiant, gan gynnwys tîm rheoli sydd â phrofiad helaeth o wneud a phrosesu dur,” meddai.

“Rydym yn hyderus y gallwn droi’r busnes ar ei ben a chynnal dur sy’n gwneud elw yn y Deyrnas Unedig.”

Cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru

Daeth hi’n amlwg heddiw bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth ariannol i brosiect Excalibur ond doedd Llafur Cymru ddim yn gallu cadarnhau faint yn union oedd y swm.

Dywedodd Carwyn Jones mewn erthygl yn yr Huffington Post,  fod y gefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth yn galluogi’r rheolwyr i gael cyngor arbenigol, cymorth technegol a thalu cyflogau’r tîm wrth i’r broses werthu fynd rhagddi.

Mae Llywodraethau’r DU a Chymru eisoes wedi cadarnhau y bydd yn rhoi cefnogaeth ariannol i unrhyw brynwr fydd yn prynu’r busnes.

Nid yw Tata wedi cyhoeddi amserlen ar gyfer dod i gytundeb terfynol ynglŷn â gwerthu’r busnes ond mae wedi dweud na all gynnal y colledion o £1 miliwn y dydd am gyfnod amhenodol.

‘Unlle arall i fynd’

Dywedodd Alan Hooper, 52, sy’n gweithio yng ngwaith dur Port Talbot bod y digwyddiadau dros yr wythnos diwethaf wedi bod yn anodd.

“Rydw i wedi gweithio yma ers mwy na 25 mlynedd a does unlle arall i mi fynd. Mae digon o bobl eraill yn yr un cwch a fi.

“Rwy’n dal i fod yn optimistaidd y byddwn ni’n dod o hyd i brynwr. Ry’n ni’n gweithio’n galed, mae gynnon ni sgiliau arbenigol ac ry’n ni’n gwneud y dur gorau yn y byd. Mae hynny’n gorfod bod yn werth rhywbeth.”

Mae Plaid Cymru wedi dweud mai cynllun Excalibur yw’r gobaith gorau i ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru.

“Rwy’n gobeithio y daw pob plaid wleidyddol y tu ôl i’r cais hwn yn awr wrth i ni frwydro am ddyfodol y diwydiant craidd hanfodol hwn, a brwydro dros swyddi Cymreig,” meddai llefarydd cyllid y blaid, Adam Price.