Jeremy Corbyn (Llun: Garry Knight CCA 2.0)
Mae Jeremy Corbyn wedi mynnu na fydd Llafur yn colli seddi yn yr etholiadau ddydd Iau ac mae wedi cyhuddo’r cyfryngau o fod ag “obsesiwn” gyda’i arweinyddiaeth yn sgil yr helynt am sylwadau gwrth-Semitig o fewn ei blaid.
Wrth siarad yn Llundain heddiw dywedodd bod y mater yn rhan o ymchwiliad annibynnol i hiliaeth o fewn Llafur sy’n cael ei arwain gan gyn-bennaeth Liberty, Shami Chakrabarti.
Mae’n dilyn sylwadau a wnaed gan Aelod Seneddol Bradford Naz Shah ar wefan gymdeithasol cyn iddi ddod yn AS.
‘Her’ i’w arweinyddiaeth
Dywedodd Jeremy Corbyn y byddai’n parhau yn ei swydd petai her i’w arweinyddiaeth ar ôl yr etholiadau yn dilyn adroddiadau bod rhai ASau Llafur yn barod i weithredu yn ei erbyn.
“Rwy’n credu bod gan y cyfryngau obsesiwn gyda hyn, yn hytrach na’r hyn ddylen nhw fod ag obsesiwn amdano, sef yr argyfwng anghydraddoldeb yn ein cymdeithas.”
Ychwanegodd: “Dydw i ddim yn gwybod pwy yw’r ASau yma ond fe fyddwn i’n cynghori pob aelod o’r blaid, gan gynnwys ASau, i fynd allan ac ymgyrchu, mae gennym ddau ddiwrnod i fynd.”
Mae disgwyl i’r etholiadau ddydd Iau fod yn brawf o arweinyddiaeth Jeremy Corbyn ac mae arbenigwyr yn darogan y gallai’r blaid golli cannoedd o seddi yn Lloegr ac y bydd hefyd yn wynebu noson anodd yn yr Alban a brwydr yng Nghymru.
Naz Shah
Yn y cyfamser mae Naz Shah AS wedi camu o’i rôl gyda’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref wrth i’r pwyllgor lansio ymchwiliad i agweddau gwrth-Iddewig ym Mhrydain.
Mae Naz Shah wedi cael ei gwahardd o’r Blaid Lafur tra bod ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal i’w sylwadau ar Facebook yn 2014, sydd wedi cael eu beirniadu am fod yn wrth-Semitig.
Dywedodd llefarydd ar ran y pwyllgor bod yr ymchwiliad i wrth-Semitiaeth wedi bod ar droed cyn i’r helynt ddod i’r amlwg o fewn y Blaid Lafur.