Mae Gethin James yn rhestru Tai a Chynllunio fel un o'i brif feysydd diddordeb
Mae ymgeisydd UKIP yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wedi wfftio’r awgrym mai plaid ‘Saesnig’ ydyn nhw – gan ddweud bod dim gwahaniaeth yn lefelau eu cefnogaeth yng Nghymru a Lloegr.
Ond mewn cyfweliad â golwg360 mae Gethin James wedi cydnabod fod gan y blaid broblem gyda’i delwedd ac nad yw’n cael ei gweld yn ddigon Cymreig gan bawb.
“Mae rhai yn dweud ein bod ni’n blaid ‘English only’, ond na, plaid Brydeinig ydyn ni, yr UK Independence Party ydyn ni ar ddiwedd y dydd,” meddai.
‘Dibrofiad, nid hiliol’
Cyfaddefodd yr ymgeisydd ei fod hefyd yn cytuno â barn arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, na ddylai’r blaid fod wedi dewis ymgeiswyr o Loegr.
Mae cyn-AS y Ceidwadwyr a UKIP, Mark Reckless, ar frig rhestr y blaid yn Nwyrain De Cymru, ac mae Neil Hamilton wedi cael ei ddewis o flaen Gethin James ar restr ranbarthol y Canolbarth a’r Gorllewin.
Mynnodd Gethin James hefyd fod sylwadau diweddar un arall o ymgeiswyr UKIP Gareth Bennett, am sbwriel ar strydoedd Caerdydd, yn deillio o fod yn ‘ddibrofiad’ yn hytrach na hiliol.
“Os oedd tystiolaeth gydag e i ddangos hynny, ’sa i’n credu bydde fe wedi bod yn hiliol i ddweud hynny, ond achos doedd dim tystiolaeth ‘da fe, mae’n edrych yn hiliol wedyn,” meddai.
“Doeddwn i ddim yn cytuno gyda beth ddywedodd Gareth Bennett.”
Gwyliwch y cyfweliad â Gethin James yn trafod ymgyrch a gobeithio UKIP yn etholiadau’r Cynulliad isod:
Cwestiynau Cyflym golwg360 i ymgeiswyr o bump o’r prif bleidiau: