Y Canghellor George Osborne am breifateiddio'r Gofrestrfa Tir Llun: PA
Mae pryder am 500 o swyddi yn Abertawe yn sgil penderfyniad Llywodraeth Prydain i breifateiddio’r Gofrestrfa Tir.

Y Gofrestrfa Tir sy’n gyfrifol am gofrestru tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr, ac mae eu prif swyddfa yn Abertawe.

Eisoes, mae dros 200,000 o bobol wedi llofnodi deiseb Aelod Seneddol Llafur Dwyrain Abertawe, Carolyn Harries, yn galw ar y Canghellor, George Osborne i newid ei feddwl.

Yn ôl Carolyn Harries, y Gofrestrfa Tir “yw’r unig gorff proffidiol sydd gan y Llywodraeth”.

“Dyw e ddim i fod i wneud elw ag ynta’n un o sefydliadau’r llywodraeth ond dyna’r gwir ac felly mae’n hawdd iawn i’w farchnata.

“Ac oherwydd y diffyg ariannol mae George yn gwerthu’r crown jewels ond wrth wneud hynny dim ond llenwi’r twll dros dro mae e…”

Gallwch ddarllen ragor yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.