Siambr y Cynulliad - gyda'r laptops wedi'u diffodd am y tro (llun: Keith Edkins)
Gydag etholiadau’r Cynulliad bron â’n cyrraedd, mae golwg360 wedi bod ar grwydr dros Gymru yn siarad ag ymgeiswyr o’r prif bleidiau fydd yn ceisio ennill lle ym Mae Caerdydd ym mis Mai.
Dros y dyddiau nesaf fe fyddwn ni’n clywed gan bob un o’r ymgeiswyr ynglŷn â beth sydd gan eu pleidiau nhw i’w cynnig, yn ogystal â’u gobeithion personol nhw ar gyfer yr etholiad.
Gallwch hefyd ddarllen ein cyfres o gyfweliadau ag arweinwyr y pedair plaid sydd yn y Cynulliad ar hyn o bryd – Carwyn Jones, Andrew RT Davies, Leanne Wood a Kirsty Williams.
Ond cyn hynny, ambell i gwestiwn cyflym wrth i ni gymryd cip tu ôl i’r llen ar fywyd y gwleidyddion.
Beth yw’r peth gorau am fod yn Aelod Cynulliad i Aled Roberts? Pam bod Gethin James o UKIP yn rhwystredig wrth ymgyrchu? Pwy sydd wedi creu’r argraff fwyaf ar Jeremy Miles o’r Blaid Lafur?
Pam fod Suzy Davies o’r Ceidwadwyr eisiau rhoi ei ffôn yn y bin cyn camu mewn i Siambr y Senedd? A pha swydd cabinet fyddai Adam Price yn ei hoffi yn y llywodraeth nesaf?