Mae disgwyl i’r gŵr busnes a fu’n berchen ar gwmni BHS wynebu cwestiynau gan bwyllgor o Aelodau Seneddol ynglŷn â methiant y cwmni a aeth i ddwylo’r gweinyddwyr ddoe.
Mae amheuon wedi’u codi ynglŷn â chyfnod Syr Philip Green fel perchennog y cwmni rhwng 2000 a’r llynedd pan werthodd y busnes am £1 i grŵp o’r enw Retail Acquisitions.
Mae gan y cwmni ddiffyg o £571 miliwn yn ei gronfa bensiynau, ac mae honiadau bod y gŵr busnes wedi talu rhandaliadau gwerth £400 miliwn o’r cwmni i’w deulu.
Am hynny, mae’r Pwyllgor Gwaith a Phensiynau wrthi’n ymchwilio i fethiant y cwmni a’u cyfrifoldebau dros bensiynau – ac maen nhw wedi gwahodd Syr Philip Green i gyflwyno tystiolaeth.
Yn dilyn cyhoeddiad BHS, mae tua 11,000 o swyddi yn y fantol, a dyma’r methiant mwyaf i gwmni’r stryd fawr ers i Woolworths fynd i’r wal yn 2008.
‘Cymryd cyfrifoldeb’
Dywedodd John Mann, AS Llafur y dylai Syr Philip Green ad-dalu’r rhandaliadau, gan ddweud ei fod wedi cymryd “mwy na £400 miliwn oddi wrth y cwmni a nawr mae’n rhaid iddo gymryd y cyfrifoldeb am y gweithredoedd a wnaed o dan ei ofal ef.”
Ychwanegodd Richard Fuller, AS y Ceidwadwyr y dylai’r dogfennau a’r ohebiaeth rhwng ei gwmni ef â Retail Acquisitions gael eu cyhoeddi, er mwyn sicrhau bod y “diwydrwydd cywir wedi’i gynnal o ran sicrhau bod digon o arian ar ôl yn y busnes ar gyfer cyfrifoldebau pensiynau.”
Mae Syr Philip Green yn berchen ar y grŵp Arcadia hefyd, sy’n cynnwys Topshop, ond nid yw wedi rhyddhau datganiad am gwymp BHS eto.