Mae’r gystadleuaeth sy’n galw ar awduron o Gymru i gyflwyno sgriptiau Saesneg yn cael ei chynnal unwaith eto eleni.
Dyma’r drydedd flwyddyn i Wobr Drama Cymru gael ei chynnal, a bydd yr enillydd yn derbyn gwobr gwerth £10,000.
Bydd yr enillydd hefyd yn cael cyfle i ddatblygu’r sgript gyda sefydliadau fel BBC Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Writersroom.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i awduron newydd a phrofiadol, ac mae’n rhaid i’r sgript fod o leiaf 30 munud o hyd a heb ei pherfformio na’i chynhyrchu o’r blaen.
‘Sbardun gwych’
“Mae awduron yn ganolog i’n gwaith ni yn Adran Ddrama BBC Cymru,” meddai Bethan Jones, pennaeth Drama dros dro BBC Cymru sy’n un o feirniaid y gystadleuaeth.
“Mae’r wobr hon yn dathlu ac yn cefnogi creadigrwydd awduron Cymru ac mae’n gyfle ffantastig inni wneud cysylltiadau newydd,” ychwanegodd.
Mae’r beirniaid eraill yn cynnwys y cyfarwyddwr Euros Lyn, pennaeth Writersroom Anne Edyvean, Kully Thiarai o Theatr Genedlaethol Cymru a Julie Gardner cyd-sylfaenydd Bad-Wolf.
Kelly Jones oedd enillydd y wobr ddwy flynedd yn ôl, pan ddaeth ei sgript ‘Tammy’ i’r brig o blith 175 o geisiadau eraill.
“Mae fy nghyfnod fel enillydd Gwobr Ddrama Cymru wedi bod yn anhygoel. Mae’n sbardun gwych i ddod â chi a’ch geiriau i amlygrwydd ac yn cynnig llu o bosibiliadau.”
Mae disgwyl i’r awduron wneud cais erbyn Gorffennaf 18, a bydd y rhestr fer yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref.