Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi sôn am ei “syndod” a “siom” ar ôl clywed am ymweliad David Cameron â Phort Talbot ar Twitter.
Roedd Prif Weinidog Prydain yn ymweld â safleoedd dur Tata ym Mhort Talbot a Llanwern i “glywed safbwyntiau (penaethiaid, undebau a staff y safle) a thrafod y ffordd ymlaen,” meddai ei lefarydd.
Er hyn, doedd dim trafodaeth â Llywodraeth Cymru a dywedodd llefarydd ar ran Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ei fod “wedi’i synnu a’i siomi ei fod wedi clywed am yr ymweliad ar Twitter.”
“Roeddem wedi’i wahodd i Bort Talbot yn flaenorol, ac wedi gofyn am gyfarfod â’r Prif Weinidog heddiw,” meddai’r llefarydd.
“Fodd bynnag, dywedodd ei swyddfa nad oedd ar gael. Rydym wedi dweud drwy gydol yr amser ein bod yn barod i roi ein gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu er budd y diwydiant dur, ond mae angen parch gan bob plaid i wneud i hyn weithio.”
Croesawu ymweliad Cameron
Yn y cyfamser mae ysgrifennydd cyffredinol undeb llafur Community, wedi dweud ei fod yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Phort Talbot heddiw.
Ond rhybuddiodd Roy Rickhuss hefyd y bydd yn “aros i (David Cameron) gyd-fynd â’i eiriau gyda gweithredu pendant.”
Yn ôl Roy Rickhuss, yn y trafodaethau a barodd rhyw awr a hanner, fe wnaeth David Cameron gadarnhau ymrwymiad Llywodraethau Prydain a Chymru, i gymryd cyfran o 25% ym musnes dur Tata, nes i’r cwmni ddod o hyd i brynwr.
“Mae David Cameron wedi ymuno â rhestr hir o wleidyddion amlwg sydd wedi ymweld â Phort Talbot, ond heddiw, fe wnaethon ni bwysleisio bod gwaith dur ledled Cymru a Lloegr hefyd o dan fygythiad,” meddai.
“Mae hwn yn argyfwng cenedlaethol ac mae’n rhaid i’r Prif Weinidog weithredu’n genedlaethol, ac yn rhyngwladol, i sicrhau dyfodol cynaliadwy i ddiwydiant dur y DU.”
Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Swyddfa’r Prif Weinidog David Cameron.