Madeleine McCann
Fe allai’r ymchwiliad i achos Madeleine McCann a ddiflannodd naw mlynedd yn ôl ddod i ben ymhen rhai misoedd, yn ôl pennaeth Scotland Yard.
Fe ddiflannodd y ferch dair oed pan oedd ar wyliau gyda’i theulu ym Mhortiwgal yn 2007.
Er bod ymchwiliadau manwl wedi’u cynnal – does dim goleuni wedi’i daflu ar y dirgelwch hyd yn hyn.
Dywedodd pennaeth Scotland Yard, Syr Bernard Hogan-Howe, eu bod yn parhau i ddilyn un datblygiad posib ar hyn o bryd – ond, os na ddaw unrhyw dystiolaeth i’r fei, fe allai’r ymchwiliad ddod i ben mewn rhai misoedd.
Llai o dditectifs
Fe gafodd ymchwiliad y DU i ddiflaniad y ferch ei lansio yn 2011, a bu ychydig o obaith wrth i dditectifs Scotland Yard amlygu troseddwr rhyw oedd wedi targedu teuluoedd Prydeinig oedd yn aros yn yr un ardal â’r man lle gwelwyd Madeleine McCann ddiwethaf.
Er hyn, does dim cynnydd pendant wedi’i wneud, ac mae’r Swyddfa Gartref wedi darparu cyllid o £95,000 i gynnal yr ymchwiliad.
Yn ogystal, mae nifer y ditectifs sy’n ymchwilio i’r achos wedi gostwng ers tro.
Yn ôl Syr Bernard Hogan-Howe: “Rydyn ni lawr i ddau neu dri o bobol, pan oedd ar un adeg tua 30 o swyddogion” yn rhan o’r ymchwiliad.
Dywedodd fod parhad yr ymchwiliad yn dibynnu ar ba dystiolaeth maen nhw’n dod o hyd iddo, ond “os bydd rhywun yn dod ymlaen â thystiolaeth dda – fe wnawn ni ei ddilyn.
“Dy’n ni wastad yn dweud nad yw ymchwiliad i blentyn sydd ar goll byth yn dod i ben.”