Llun: Cyngor Sir Gaerfyrddin
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cytuno i adeiladu cartref newydd, gwerth £2miliwn, ar gyfer Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin.

Yn ddiweddar, mae’r safle ym Mharc Myrddin wedi bod ynghau oherwydd llwydni, gyda’r archifau, sy’n cynnwys cofnodion am ferched Beca, yn cael eu storio dros dro yng ngwasanaeth Archifau Morgannwg ac Abertawe.

Bellach, mae Bwrdd Gweithredol y Cyngor Sir wedi cymeradwyo adeiladu cartref newydd i’r gwasanaeth ar ffurf estyniad i gefn Llyfrgell y dref ar Heol y Brenin, Caerfyrddin.

Cafodd Amgueddfa Abergwili, Neuadd Sirol Caerfyrddin a Pharc Howard yn Llanelli hefyd eu hystyried fel safleoedd posibl.

‘Cyfnod cyffrous’

“Mae’n wych bod lleoliad wedi cael ei ganfod yng Nghanol Tref Caerfyrddin, a fydd yn darparu cysylltiad perffaith â gwasanaethau diwylliannol eraill megis y llyfrgell a’r oriel gelf,” meddai’r cynghorydd Meryl Gravell.

“Mae’n gyfnod cyffrous i ni oherwydd ein bod hefyd wrthi’n digideiddio’r archifau i sicrhau eu bod ar gael nid yn unig i bobol yn lleol, ond drwy’r byd i gyd.”