Arfon Jones
Mae ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer swydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd y gogledd wedi amddiffyn sylwadau a wnaeth ar Twitter bedair blynedd yn ôl.
Ar 1 Ebrill 2012, dywedodd Arfon Jones ar Twitter y dylai pobol gynnal math o “brotest,” wrth iddo ymateb i gynigion Llywodraeth y DU i roi mwy o bwerau gwyliadwriaeth i’r gwasanaethau diogelwch.
Dywedodd y dylai “miloedd ohonom anfon e-byst yn cynnwys y geiriau bom, terfysgwr ac Iran. Dylai hynny gadw GCHQ yn dawel.”
Bellach, mae’r ymgeisydd wedi dweud mai “banter” oedd y sylwadau hynny, gan amddiffyn sylwadau eraill lle’r oedd yn feirniadol o’r ymosodiadau o’r awyr gan y DU yn Syria.
Ond, mae ei sylwadau wedi ennyn ymateb, gydag AS y Ceidwadwyr yng Ngorllewin Clwyd, a chyn-Ysgrifennydd Cymru David Jones, yn ei alw’n “farn eithafol.”
‘Gwrthwynebu polisi Nato yn y Dwyrain Canol’
“Roedd fy sylwadau yn ymwneud â fy mhryderon y byddai mwy o ymyrraeth filwrol y gorllewin yn y Dwyrain Canol yn arwain at fwy o radicaleiddio ac yn dwysau trais yn y rhanbarth,” meddai Arfon Jones.
“Mae hyn yn ymwneud ag ideoleg,” ychwanegodd gan ddweud fod “David Jones AS a’r Ceidwadwyr yn cefnogi cyrchoedd imperialaidd gan wledydd Nato yn y Dwyrain Canol, tra fy mod i’n credu bod y bygythiad brawychol yn y DU yn uchel o ganlyniad iddo, ac rwy’n gwrthwynebu polisi Nato yn y Dwyrain Canol.
“Dw i wedi gwrthwynebu’r rhyfelgarwch hwn yn gyson ac fel ymgeisydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd mae cynyddu rhybuddion diogelwch yn berthnasol i’r ymgyrch.
“Yn ogystal, byddai’r ymyrraeth yna yn cynyddu’r bygythiad i ddiogelwch gartref gan wneud ymosodiadau brawychol yn y DU yn fwy tebygol.”