Dylai pleidlais orfodol gael ei chyflwyno ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, yn ôl un o Ddirprwy Weinidogion y llywodraeth Lafur dros y penwythnos.
Yn ôl Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, sydd hefyd yn ymgeisydd Llafur yn Ne Clwyd, byddai pleidlais orfodol yn arwain at gynnydd yn y nifer sy’n pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad.
Mewn cyfweliad ar raglen ‘Sunday Supplement’ ar Radio Wales ddoe, dywedodd ei fod yn “siomedig” gan mai 40% yn unig o bobl wnaeth bleidleisio yn yr etholaeth y tro diwethaf.
Dyw’r Blaid Lafur ddim wedi ymateb i’w sylwadau, er eu bod wedi gwrthwynebu’r syniad o bleidlais orfodol yn y gorffennol.
Yn ddiweddar, fe rybuddiodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y gallai’r nifer isaf erioed o bleidleiswyr fwrw eu pleidlais ar Fai 5 – gan ddweud bod y diffyg diddordeb yn yr etholidau yn “argyfwng.”
Ond ai pleidlais orfodol yw’r ateb?
Ar hyn o bryd, mae 11 gwlad yn gorfodi pobol i gymryd rhan mewn etholiadau. Ond, sut mae mynd ati i orfodi pobol i bleidleisio – a fyddai angen dirwyon?
Beth yw eich barn chi? Ydych chi’n cytuno â sylwadau Ken Skates sy’n gweld pleidlais orfodol fel cyfrwng i gynyddu’r nifer sy’n pleidleisio yn yr etholiadau? Fyddai’n rhaid cynnwys opsiwn ’dim un o’r uchod’ petai hynny’n cael ei gyflwyno?
Neu, a ddylid gadael i bobol benderfynu drostyn nhw eu hunain os am bleidleisio ai peidio?