Y Cynulliad
Fe allai’r gynrychiolaeth o fenywod yn y Cynulliad Cenedlaethol “leihau” yn dilyn etholiadau mis Mai, yn ôl adroddiad newydd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru (ERS Cymru).
Mae’r gymdeithas hefyd yn rhybuddio y gallai’r “Senedd aros yn ei hunfan” o ran cynnig amrywiaeth.
Daw hyn fel rhan o ganlyniadau adroddiad a archwiliodd debygolrwydd pob ymgeisydd etholiad i ennill sedd – gan ddangos fod menywod yn fwy tebygol o gystadlu am seddau ymylol o gymharu â dynion.
O’r 11 sedd ymylol a ddaeth i’r amlwg, roedd deg o’r rheiny’n cael eu hamddiffyn gan fenywod, ac mae perygl felly i’r gynrychiolaeth yn y Cynulliad ddisgyn ar ôl mis Mai.
‘Cynulliad mwy’
“Mae’r adroddiad hwn yn ei gwneud hi’n glir ein bod ni mewn perygl o weld y Senedd yn aros yn ei hunfan o ran cynrychiolaeth menywod,” meddai Steve Brooks, Cyfarwyddwr ERS Cymru.
Dywedodd fod angen i’r pleidiau “weithredu i sicrhau fod menywod yn cael eu dewis mewn seddau etholaethol” gan gynnig y dylid ymestyn y Cynulliad.
“Ar y cyfan, mae angen Cynulliad mwy arnom i roi mwy o le i’r amrywiaeth gael ei gynrychioli yng Nghymru.”
‘Syrthio tu ôl’
Yn ôl yr adroddiad, mae 17 sedd etholaethol yng Nghymru erioed wedi’u dal gan fenywod – ac o’r rheiny mae deg ohonyn nhw heb gael AS benywaidd chwaith.
“Dros y ddegawd ddiwethaf, roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn arweinwyr byd o ran cynrychiolaeth merched,” meddai’r Athro Laura McAllister o Brifysgol Lerpwl a fu ynghlwm â’r adroddiad.
“Ond, mae’r addewid cynnar wedi aros yn ei unfan ac fel mae’r adroddiad hwn yn dangos, mae Cymru mewn perygl o syrthio tu ôl.”
Cynigion
Am hynny, mae ERS Cymru yn amlinellu pedwar cynnig i fynd i’r afael â democratiaeth amrywiaethol.
Maen nhw’n cynnig y dylid cynyddu nifer yr ACau, sicrhau cynrychiolaeth menywod mewn llywodraeth leol, cefnogi mudiadau tebyg i ‘Merched yn Gwneud Gwahaniaeth’ – ac annog pleidiau i gael menywod yn sefyll mewn o leiaf 40% o’r seddau y mae siawns eu hennill.