Llun: Clive Gee/PA Wire
Nid lle’r trethdalwyr yw talu’r gost am ddiffyg o £571 miliwn yng nghronfa bensiwn BHS, meddai undeb llafur sy’n cynrychioli gweithwyr siop heddiw.

Cafodd BHS ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr heddiw ac mae 11,000 o swyddi yn y fantol yn y DU, cannoedd ohonyn nhw yng Nghymru.

Mae gan y grŵp saith siop yng Nghymru, yng Nghaerfyrddin, Casnewydd, Abertawe, Trostre, Llandudno, Wrecsam a Chaerdydd.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth ymyrryd nawr i ddiogelu arian y trethdalwyr rhag talu am y gost o daliadau diswyddo a diogelu’r Gronfa Bensiynau,” meddai llefarydd ar ran yr undeb Usdaw.

Mae’r gweinyddwyr Duff & Phelps wedi dweud eu bod yn ceisio dod o hyd i brynwr i’r cwmni, ond bod trafodaethau munud olaf â Sports Direct wedi methu a hynny oherwydd y diffyg yn y gronfa bensiynau.

‘Pryder’

Cafodd BHS ei brynu oddi wrth y dyn busnes Syr Philip Green am £1 y llynedd gan gonsortiwm o’r enw Retail Acquisitions, a oedd yn cael ei arwain gan Dominic Chappell.

Mae’n debyg bod Syr Philip Green, sy’n berchen ar lu o siopau mawr, gan gynnwys Topshop, wedi cynnig £80 miliwn tuag at gronfa bensiynau BHS, ond gallai’r rheoleiddwyr ofyn am fwy gan y biliwnydd.

Mae gan gronfa bensiwn BHS dros 20,000 o aelodau.

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid, drydar: “Newyddion sy’n codi pryder i weithwyr #BHS y bore yma. Mae’r Llywodraeth mewn cysylltiad â rheolwyr y cwmni yn ystod yr amser anodd hwn.”

Mae disgwyl iddo wneud datganiad llawn yn Nhŷ’r Cyffredin yn ddiweddarach.