Gwaith dur Port Talbot - mwy o hyder (Chris Shaw CCA2.0)
Mae undebau a phrynwyr posib wedi croesawu awgrym Llywodraeth Prydain y gallai gymryd hyd at chwarter rhanddaliadau cwmni newydd i redeg gweithfeydd dur Ta-ta.

Fe gafodd gweithwyr gyfle i drafod y newyddion mewn cyfarfod ym Mhort Talbot neithiwr ac mae un o arweinwyr y grŵp o bobol fusnes sy’n ystyried prynu’r busnes yn dweud eu bod yn llawer mwy “hyderus” o ganlyniad i’r addewid.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedan nhw’n gallu cyfrannu’n ariannol os bydd perchnogion newydd i’r gweithfeydd, sy’n cynnwys rhai yn Shotton, Casnewydd a Throstre, yn ogystal â Port Talbot.

Y Consortiwm

Mae’r biliwnydd Cymreig, Terry Matthews, hefyd wedi lled-awgrymu y bydd yn buddsoddi ei arian ei hun yn y fenter – mae’n rhan o’r consortiwm sy’n ceisio rhoi cynllun at ei gilydd.

Fe fu rhai ohonyn nhw yn cyfarfod yng ngwesty Syr Terry, y Celtic Manor ger Casnewydd, ddoe – mae’r grŵp yn cael ei arwain gan un o’i bartneraid busnes, Roger Maggs, sydd hefyd yn gadeirydd ar Ardal Fenter Glannau Port Talbot.

Fe groesawodd addewid Llywodraeth Prydain i fuddsoddi miliynau o bunnoedd, gan ddweud eu bod yn “benderfynol” cynt ond yn llawer mwy hyderus wedyn.