M4
Byddai ffordd newydd yr M4 yn torri trwy bedair ardal o Gymru sy’n enwog am eu harddwch naturiol eithriadol a’u pwysigrwydd i fywyd gwyllt, yn ôl elusen gwarchod adar.

Nawr mae RSPB Cymru yn annog y cyhoedd i godi llais a chyfrannu i ymgynghoriad cyhoeddus am y prosiect cyn ei bod yn rhy hwyr.

Byddai’r ffordd, a fydd yn costio tua £1 biliwn, yn gweld darn newydd o draffordd yr M4 yn cael ei adeiladu trwy Wastadeddau Gwent er mwyn lliniaru’r traffig.

Mae RSPB Cymru eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried atebion mwy cynaliadwy i’r broblem traffig, fel uwchraddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun M4 yn dod i ben ar 4 Mai ac yn ôl RSPB Cymru, mae angen gwrthwynebu’r cynllun fel y mae oherwydd ei fod yn bygwth torri trwy bedwar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sy’n hanfodol i warchod natur.

‘Ystod ryfeddol o fywyd gwyllt’

Meddai Arfon Williams, Rheolwr Cefn Gwlad RSPB Cymru: “Does ond angen i chi edrych o’ch cwmpas i weld fod Gwastadeddau Gwent yn rhywbeth arbennig i Gymru.

“Mae’n gartref i ystod ryfeddol o fywyd gwyllt yn cynnwys y gornchwiglen, dyfrgwn, llygod y dŵr, y chwilen ddŵr fawr arian a phlanhigyn blodeuol lleia’r byd, y Wolffia.  Y cyfan yn rhesymau pam y dylem sefyll a gwarchod y rhan yma o’n gwlad cyn i ni ei golli am byth.”

Gan fod yr ymgynghoriad yn dod i ben ddiwrnod cyn etholiadau’r Cynulliad, bydd y penderfyniad am y ffordd yn cael ei wneud gan Lywodraeth nesaf Cymru.