Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot Llun: Ben Birchall/PA
Mae’n debyg bod uwch reolwyr cwmni dur Tata wedi mynegi diddordeb mewn cynllun i brynu’r safle ym Mhort Talbot.

Credir bod Stuart Wilkie, rheolwr gyfarwyddwr gyda Tata, yn canfasio gweithwyr i ymuno yn y cais.

Fe fyddai’n ceisio cael buddsoddiad o hyd at £10,000 yr un gan y gweithwyr, yn ôl ffynonellau. Byddai’n rhaid cael buddsoddiad preifat a chefnogaeth y Llywodraeth hefyd.

Swyddi yn y fantol

Nid yw Tata wedi cadarnhau enwau unrhyw un sydd wedi mynegi diddordeb mewn prynu ei fusnes yn y DU.

Ym mis Mawrth eleni, fe gyhoeddodd y cwmni dur o India ei fod am werthu’r asedau yn y DU.

Mae miloedd o swyddi yn y fantol yn safleoedd Tata gan gynnwys Port Talbot, Llanwern a Throstre, yn ogystal â chwmnïau sy’n cyflenwi’r busnes.

Roedd Stuart Wilkie yn un o’r rhai oedd wedi cyflwyno cynllun i achub y busnes a gafodd ei wrthod gan y bwrdd yn India.

Colledion

Mae’r busnes yn colli £1 miliwn y dydd ac er nad yw Tata wedi cyhoeddi dyddiad cau ar gyfer gwerthu’r busnes, maen nhw’n awyddus i ddod i gytundeb gyda phrynwr yn fuan.

Hyd yn hyn, Liberty yw’r unig gwmni sydd wedi mynegi diddordeb yn gyhoeddus mewn prynu’r busnes.

Wythnos diwethaf fe awgrymodd yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid y byddai’r Llywodraeth yn ystyried buddsoddi ar y cyd yn y busnes.

Ddydd Llun, fe ymunodd Sajid Javid a Gweinidog Economi Cymru Edwina Hart, a gweinidogion o wledydd eraill mewn cyfarfod ym Mrwsel i drafod gor-gynhrychu dur.