Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug (LlunG360)
Mewn cyfarfod heddiw, mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi penderfynu cau dwy ysgol gynradd yn y sir.

Yn dilyn y penderfyniad, bydd Ysgol Gymunedol Llanfynydd, ger Wrecsam ac Ysgol Gymunedol Maes Edwin, ger y Fflint yn cau ar 31 Awst.

Lleoedd gwag yn yr ysgolion oedd y rheswm dros gau, ac mae disgwyl i’r cam hwn arbed £186,000 y flwyddyn i’r cyngor.

Bu ymgyrch i gadw’r ysgolion ar agor ac mae rhieni a disgyblion yn dweud y byddan nhw’n parhau i frwydro yn erbyn y penderfyniad.

Mae rhai cynghorwyr yn anhapus hefyd â’r ffordd y mae’r data dros gau’r ysgolion wedi cael ei gyflwyno gan y cyngor, gan alw am gyfarfod i drafod y mater.

Er hyn, mae Cyngor y Fflint wedi dweud ei fod wedi dilyn prosesau Cod Ad-drefnu Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd hefyd fod Estyn wedi cytuno â’r cyngor bod digon o gapasiti yn y rhwydwaith ysgolion lleol i ddarparu ar gyfer disgyblion yn y ddwy ysgol.

‘Sefyllfa heriol’

“Rydym yn deall bod adolygu dyfodol unrhyw ysgol yn ddadleuol ac yn emosiynol,” meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell.

“Fodd bynnag yn y cyfnod anodd hwn, rydym yn wynebu sefyllfa heriol o orfod cydbwyso sensitifrwydd teimladau’r gymuned ar y naill law â darparu addysg gynradd o safon uchel sy’n fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

“Ni all y Cyngor osgoi gwneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol sydd er budd y disgyblion a’r myfyrwyr.”

Ychwanegodd, nad oedd y cyngor yn gallu “fforddio sybsideiddio” ysgolion bach rhagor.