Llys y Goron Caerdydd
Cafodd dau ddyn eu gorfodi i fyw a gweithio mewn amodau “erchyll” am £10 y dydd, clywodd rheithgor heddiw.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y ddau ddyn wedi cael eu curo os nad oedan nhw’n ymateb i orchmynion eu pennaeth ac roedden nhw’n cael eu “cipio” os oedan nhw’n ceisio dianc.
Mae Patrick Joseph Connors, 59, ei feibion Patrick Dean Connors, 39, a William Connors, 36, a’i fab yng nghyfraith Lee Christopher Carbis, 34, yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn eu herbyn.
Dywedodd John Hipkin ar ran yr erlyniad bod y dynion wedi cael eu gorfodi i gysgu mewn siediau oer gyda lloriau concrit – gydag un o’r dynion yn golchi ei hun gyda thap dwr oer a bwced.
Clywodd y llys bod un o’r dynion – na ellir cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol ond sy’n cael ei adnabod fel Mr K – wedi neidio o gar oedd yn symud ar y pryd am ei fod yn mor awyddus i ddianc.
Roedd y dyn arall, Michael Hughes, 46, wedi bod dan reolaeth Patrick Joseph Connors am bron i ddau ddegawd cyn iddo ddianc ar ôl gweld adroddiadau ar raglen newyddion ynglŷn â llafur gorfodol, clywodd y rheithgor.
‘Amodau erchyll’
Am nifer o flynyddoedd, roedd y ddau ddyn yn cael eu talu un ai gydag alcohol, tybaco neu symiau bach o arian – £10 y dydd – ac yn byw mewn amodau “erchyll”, meddai John Hipkin.
Clywodd y llys bod Michael Hughes, sy’n dod o Aberdeen yn wreiddiol, wedi teithio i Gaerdydd pan oedd tua 18 ac wedi bod yn byw ar fferm cyn “cael ei symud i ofal” y teulu Connors.
Roedd y ddau ddyn wedi cael eu gorfodi i weithio i gwmni adeiladu Patrick Connors gan ddechrau gyda’r wawr a gorffen tua 11yh, meddai’r erlyniad.
Pan gafodd Connors ei holi gan yr heddlu roedd wedi gwadu gwneud unrhyw beth o’i le gan ddweud ei fod wedi edrych ar ôl y ddau ddyn a’u talu’n dda.
Mae’r pedwar dyn yn gwadu un cyhuddiad o orfodi person i weithio rhwng 2010 a 2013.
Mae Patrick Joseph Connors, 59, o Dredelerch hefyd wedi pledio’n ddieuog i wyth cyhuddiad o achosi niwed corfforol, pedwar cyhuddiad o gipio ac un cyhuddiad o gynllwynio i gipio rhwng 1990 a 2012.
Mae ei fab hynaf Patrick Dean Connors o Dredelerch yn gwadu cipio a chynllwynio i gipio.
Mae William Connors, o Dredelerch wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol i ddyn rhwng 2009 a 2013.
Ac mae Lee Christopher Carbis, mab yng nghyfraith Patrick Joseph Connors, o Trowbridge, hefyd yn gwadu un cyhuddiad o gipio rhwng 2001 a 2002.
Mae disgwyl i’r achos barhau am chwe wythnos.