Caerdydd
Mae un o arweinwyr streic gyrwyr tacsis Caerdydd wedi cael colli ei drwydded yrru tacsi am 10 diwrnod am iddo wrthod mynd â dwy ferch yn ei dacsi am fod y daith yn “rhy fer.”

Collodd Mathab Khan, Cadeirydd Cymdeithas Cerbydau Hacni, ei apêl yn Llys yr Ynadon Caerdydd a chafodd ei orchymyn i dalu £250 mewn costau.

Fe arweiniodd Mathab Khan streic o thua 200 o yrwyr tacsi eraill yn y brifddinas nos Wener a nos Sadwrn rhwng hanner nos ac 1 o’r gloch y bore mewn protest yn erbyn penderfyniad Cyngor Caerdydd i wahardd gyrwyr am wrthod mynd â phobol ar deithiau byr.

Mae’r gyrwyr sy’n anhapus â chamau Cyngor Caerdydd yn bwriadu cynnal streic arall y penwythnos hwn.

Cafodd trwydded Mathab Khan ei gymryd oddi wrtho ar 9 Chwefror eleni ond fe apeliodd y gyrrwr tacsi yn erbyn y penderfyniad.

Tystiolaeth y llys

Roedd yn cynrychioli ei hun yn y llys, gan ddweud i ddechrau ei fod wedi bod yn aros am “ddyn 19 oed oedd heb ddod yn y diwedd” pan ddaeth y merched ato.

Dywedodd hefyd ei fod wedi cael ei “gyhuddo ar gam”.

“Mae’n rhaid fy mod wedi cael fy nghamgymryd am rywun arall, dwi ddim yn gwrthod ffioedd… dwi yma i gael fy rhyddhau o fai a chael cyfiawnder,” meddai.

Yn ôl tystiolaeth y ddwy ferch sy’n ei gyhuddo, pan ofynnwyd iddo am lifft o Ffordd Churchill i Heol Claude yn y Rhath, atebodd Mathab Khan nad  oedd “yn bell”.

Yn ôl y merched, fe wnaeth gau ffenest y car a throi ei gefn arnyn nhw.

Clywodd y llys fod Mathab Khan wedi derbyn ffi i’r Barri ar ôl gwrthod y “ffi taith fer”.

Yn ôl casgliad y llys apêl, roedd penderfyniad Cyngor Caerdydd yn y Pwyllgor Diogelu’r Cyhoedd i’w wahardd wedi bod yn “gymesur ac yn briodol” a chafodd ei apêl ei diystyru.

Mae Mathab Khan yn bwriadu apelio. Mae ganddo 21 diwrnod i wneud hynny.

Uber yn dod i Gaerdydd

Yn wyneb streiciau gyrwyr tacsis y brifddinas, mae sôn heddiw y bydd cwmni tacsi rhyngwladol, Uber yn dod i Gaerdydd ddydd Gwener.

Fe fydd yr ap yn cysylltu gyrwyr tacsi â’u cwsmeriaid drwy eu ffonau symudol a bydd modd talu am  deithiau drwy’r ap hefyd.

Fe wnaeth Cyngor Caerdydd roi trwydded i’r cwmni i weithredu yn y ddinas ddechrau mis Ionawr.

Ond  mae undeb y GMB, sy’n cynrychioli cyfran o yrwyr tacsi, wedi mynegi pryder y byddan nhw’n cael eu tanbrisio gan y cwmni.