Mae disgwyl i feddygon iau Lloegr fynd ar streic yr wythnos nesaf tros delerau newydd i’w cytundebau gwaith.

Ond, mae cynrychiolwyr o Gymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi dweud eu bod yn barod i beidio â gwneud hynny – ar yr amod bod yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, yn rhoi’r gorau i fygwth cyflwyno’r cytundebau.

Mae’r streic wedi’i drefnu ar gyfer 8yb dydd Mawrth nesaf (Ebrill 26), ac mae disgwyl iddo barhau tan 5yh ddydd Mercher (Ebrill 27).

Mewn streiciau blaenorol, mae’r meddygon iau wedi parhau i gynnig gwasanaethau gofal brys, ond y tro hwn fyddan nhw’n ymwrthod â hynny hefyd.

‘Bwrw ymlaen’

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Iechyd, galwodd Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Iau’r BMA, Johann Malawana, am gyfarfod brys â Jeremy Hunt.

Dywedodd fod “cyflwyno’r cytundeb hwn yn hynod o niweidiol i hyder meddygon iau a myfyrwyr meddygol ac mae wedi golygu cwymp yn y ffydd rhwng meddygon a’r Llywodraeth.”

Ym mis Chwefror eleni, dywedodd Jeremy Hunt y byddai’n “bwrw ymlaen” â chyflwyno’r cytundeb newydd, ond mae’r gymdeithas wedi galw am drafodaethau pellach.

 

‘Hawl i orfodi’

Fe wynebodd yr Ysgrifennydd Iechyd gwestiynau gan y gwrthbleidiau yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe am ei hawliau i orfodi meddygon iau i dderbyn telerau ac amodau’r cytundeb y maen nhw’n pryderu yn ei gylch.

Ond, fe fynnodd yntau ei fod yn “ymddwyn o fewn y gyfraith.”

Wrth ymateb i gwestiynau Llafur dywedodd, “Ydyn, rydyn ni’n cyflwyno cytundeb newydd ac yn gwneud hynny gydag edifeirwch am fod y BMA wedi gwrthod siarad â ni am fwy na thair blynedd, yn ystod tri o brosesau annibynnol.”