Llys y Goron Caernarfon
Mae cyn-athro wedi ei garcharu am naw mis ar ôl pledio’n euog o fod â 51 o ddelweddau pornograffig yn ei feddiant.

Fe gafodd Roger Griffiths, 77 oed, o Wrecsam ei arestio fel rhan o ymchwiliad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).

Wrth i’w achos ddechrau fis diwethaf, fe blediodd yn euog i’r cyhuddiadau o feddu ar y delweddau, ac yn Llys y Goron Caernarfon heddiw fe gafodd ei garcharu am naw mis.