Carchar Abertawe wedi bod yn peilota gwaharddiad ar ysmygu
Mae tri o garcharorion wedi dod i lawr o ben to carchar yn Abertawe yn dilyn protest.

Mae lle i gredu bod y tri yn protestio yn erbyn penderfyniad i beilota gwaharddiad ar ysmygu ar dir y carchar ar Heol Ystumllwynarth y ddinas.

Fe fu’r tri ar y to rhwng 10 o’r gloch y bore a 4 o’r gloch y prynhawn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw mewn ymgais i’w denu i lawr, ac roedd modd clywed y carcharorion yn bloeddio o’r tu fewn a’r tu allan i’r carchar.

Roedd yr heddlu y tu allan i’r carchar drwy gydol y brotest, ac roedd nifer fach o bobol wedi ymgasglu i weld yr hyn oedd yn digwydd.

Nid dyma’r tro cyntaf eleni i’r carchar fod yn y newyddion.

Ddechrau’r mis, daethpwyd o hyd i garcharor wedi marw yn ei gell, a’r gwaharddiad sy’n cael y bai am ei farwolaeth.