Mae dyn 18 oed a gafodd ei arestio ym maes awyr Manceinion ar amheuaeth o weithgarwch brawychol yn ymwneud â Syria wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y dyn o Birmingham ei arestio fore Sadwrn wrth iddo ddychwelyd o Syria.

Mae perthynas rhwng yr achos hwn ac achos dau o bobol a gafodd eu harestio yn Birmingham ddechrau’r mis.

Bryd hynny, cafodd dyn 24 oed a dynes 20 oed eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Ond does dim perthynas rhyngddyn nhw a phump o bobol eraill a gafodd eu harestio’r wythnos diwethaf ym meysydd awyr Birmingham a Gatwick.