Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi amlinellu ei addewidion ef a’i blaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad mewn erthygl yn y Sunday Telegraph.

Yr economi sy’n cael y flaenoriaeth ac mae’r darn yn agor drwy ganmol cwmni effeithiau arbennig Real SFX o Gaerdydd sydd, meddai, yn “un enghraifft o stori lwyddiant go iawn i ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf”.

Mae’n cyfeirio hefyd at sefydlu stiwdios Pinewood, y stiwdio gyntaf newydd yng ngwledydd Prydain, a nifer o brosiectau eraill ym myd y diwydiannau creadigol sydd wedi cael eu denu i Gymru.

“Mae’n stori lwyddiant y mae Llafur Cymru am adeiladu arni, a dyna pam fod ein maniffesto fydd yn cael ei lansio’n ddiweddarach yr wythnos hon yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu ‘Cymru greadigol’.”

Wrth gyfeirio at yr argyfwng dur yng Nghymru, tynnodd sylw at becyn cymorth gwerth £60 miliwn i helpu gweithwyr Tata Steel.

Dywedodd ei fod wedi galw ar Brif Weinidog Prydain, David Cameron i adolygu cynlluniau pensiwn y gweithwyr. 

Dywedodd mai dur yw’r “pwnc sy’n dominyddu yng Nghymru”.

Fe gyhoeddodd hefyd y byddai Llafur yn sefydlu Cynllun Cefnogi Sbarduno Busnesau ar gyfer busnesau canolig yng Nghymru, gan mai nhw sy’n wynebu’r “risg mwyaf”.

Ychwanegodd y byddai ei lywodraeth yn cefnogi busnesau Canolfan Fenter ac Arloesi yng Nghaerffili a’r Tech Hub yn Abertawe.

Addawodd hefyd y byddai Llafur yn sefydlu o leiaf 100,000 o brentisiaethau ac yn torri trethi i fusnesau bychain.

Dywedodd mai “celfyddyd yr hyn sy’n bosib, ynghyd ag ymrwymiad i degwch” fyddai ei lywodraeth yn ei gynnig wedi’r etholiadau ar Fai 5.