Plymar o Sir Gaerfyrddin sydd wedi dod i’r brig yng nghyfres deledu S4C, Ffasiwn Bildar, gan ennill £3,500 a chyfle i fodelu dillad cwmni Dickies.

Bydd Gavin Orson hefyd yn ymddangos ar flaen cylchgrawn adeiladu Professional Builder fel rhan o’i wobr.

Roedd Ffasiwn Bildar yn dilyn cystadleuaeth rhwng 14 o adeiladwyr, a’u gallu mewn tasgau megis adeiladu catwalk a cherdded arni, teilio ystafell ymolchi a modelu o flaen y camera.

Y cyn-blastrwr a’r model rhyngwladol, Dylan Garner, oedd yn cyflwyno’r gyfres ac yn cyd-feirniadu’r gystadleuaeth.

Partneriaeth rhwng S4C a Sony

Roedd Ffasiwn Bildar yn rhan o bartneriaeth rhwng S4C, Sony Pictures Television a chwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru i ddatblygu fformatau rhaglenni adloniant newydd.

Y nod yw datblygu syniadau am gyfresi newydd i’w dangos ar S4C, ac yna’u cynnig i ddarlledwyr eraill ar y farchnad ryngwladol.

Bydd Gavin Orson, 26, yn gwario ei wobr ariannol ar ddechrau busnes plymio ond mae hefyd am barhau i fodelu, meddai.

“Dw i’n berson cystadleuol, ac wrth i mi fynd ymlaen yn y gyfres, ro’n i’n fwy penderfynol o ennill,” meddai.

“Mae arian y gystadleuaeth yn gymaint o gymorth i mi, ac yn golygu nad ydw i’n gorfod cymryd benthyciad allan o’r banc. Dw i’n edrych ymlaen at feithrin mwy o gwsmeriaid, a datblygu fy ngyrfa.”

Cystadleuaeth ‘adloniannol’

Yn ôl Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C, bu’r gystadleuaeth yn un “adloniannol a hwyliog” a “ffyrnig” ar brydiau.

“Rydym yn hynod o falch bod cwmnïau mor enwog â Dickies a Professional Builder wedi cyd-weithio â ni ar y rhaglen. Rydym yn hyderus y bydd Gavin yn wyneb delfrydol ar gyfer y diwydiant, ac i fildars yng Nghymru a Phrydain.”