Un o fideos y Wladwriaeth Islamaidd (Llun: PA)
Mae merch 15 oed wnaeth drywanu heddwas yn Yr Almaen, yn cael ei hamau o wneud hynny er mwyn dangos ei chefnogaeth i IS.

Mae’r ferch yn y ddalfa ar amheuaeth o geisio llofruddio heddwas gyda chyllell fara yn Hanover fis Chwefror.

Heddiw mae erlynwyr yn Yr Almaen wedi datgelu bod y ferch wedi “arddel ideoleg jihadi radical” y Wladwriaeth Islamaidd, ac wedi bod yn cysylltu ar y We gyda chriwiau IS yn Syria.

Yn ôl yr erlynwyr bu i’r ferch, sy’n rhannol o’r Almaen ac yn rhannol o Forocco, deithio i Istanbul yn y gobaith o gyrraedd Syria. Ond fe gafodd ei mam afael ynddi a’i hebrwng adref.

Ond tra yn Nhwrci credir bod aelodau IS wedi ei pherswadio i aberthu ei hun trwy gynnal ‘martyrdom operation’ yn Yr Almaen.