Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cael eu beirniadu ar ôl cyhoeddi eu bwriad i gynnal ymgynghoriad i godi’r terfyn cyflymder ar yr M4 a’r A55 i 80 milltir yr awr.
Yn ôl un elusen ddiogelwch, mae codi terfynau cyflymder yn beryglus; yn ôl corff arall, dyw’r mater ddim wedi’i ddatganoli beth bynnag.
Ond, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, fe fyddai codi’r terfynau ar y prif ffyrdd ar draws y De a’r Gogledd yn rhoi hwb i economi Cymru.
‘Cymorth amhrisiadwy’
Mae’r Ceidwadwyr yn credu y byddai codi’r terfyn cyflymder yn gwella amseroedd teithio i waith, yn rhwyddhau teithiau cerbydau nwyddau ac o fantais i’r gwasanaethau sy’n dibynnu ar y ffyrdd.
Yn ôl arweinydd y blaid, Andrew RT Davies, fe fyddai codi’r terfyn cyflymder ar y ffyrdd hyn yn “chwarae rhan bwysig wrth symud ein heconomi yn ei flaen, ac yn cynnig cymorth amhrisiadwy i fodurwyr, cymudwyr a busnesau”.
Ond roedd yn mynnu y byddai’r ymgynghoriad yn “sicrhau bod pob agwedd yn cael ei ystyried” ac y byddai diogelwch yn ganolog.
‘Siomedig’
Ond, mae’r cyhoeddiad wedi ennyn ymateb chwyrn gan yr elusen ddiogelwch y ffyrdd, Brake.
“R’yn ni’n siomedig fod ymgynghoriad o’r fath hyn yn oed yn cael ei ystyried,” meddai llefarydd yr elusen, Jack Kushner.
“Mae tystiolaeth o ymgynghoriadau blaenorol yn dangos yn glir bod codi’r terfyn cyflymder yn beryglus – gyda’r posibilrwydd o 25 o farwolaethau a 100 o anafiadau difrifol ychwanegol y flwyddyn – yn ogystal â bod yn niweidiol i’r amgylchedd a’r economi.”
‘Heb ei ddatganoli’
Dywedodd Chris Humer Rheolwr Gan Bwyll, Partneriaeth Diogelwch y Ffyrdd yng Nghymru, eu bod yn “croesawu adolygiadau ar derfynau cyflymder yn gyffredinol, gan gynnwys eu codi neu eu gostwng fel sy’n briodol.”
Er hyn, pwysleisiodd fod y “posibilrwydd i godi’r terfyn cyflymder cenedlaethol yn fater sydd wedi’i ddal yn ôl gan Lywodraeth y DU, a dyw e ddim wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.”