Ched Evans
Fe fydd y pêl-droediwr Ched Evans yn darganfod wythnos nesaf a yw wedi ennill her yn erbyn ei ddyfarniad am deisio merch 19 oed yn Y Rhyl.

Mae disgwyl i dri barnwr yn y Llys Apêl gyhoeddi eu penderfyniad ddydd Iau, 21 Ebrill yn dilyn proses apêl fis diwethaf.

Roedd cyn-bêl-droediwr Cymru a Sheffield United, sy’n 27 oed, yn y llys yn Llundain ar gyfer y gwrandawiad gyda’r gariad Natasha Massey wrth ei ochr.

Cafodd Ched Evans ei ddyfarnu’n euog yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Ebrill 2012 am dreisio dynes mewn gwesty yn Y Rhyl. Cafodd ei ryddhau o’r carchar yn 2014 ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo.

Cafodd ei achos ei gyfeirio at y Llys Apêl gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC) sy’n ymchwilio i gamweinyddiad cyfiawnder posibl.

Mae gorchymyn a wnaed gan y tri barnwr ar ddechrau’r apêl yn parhau mewn grym sy’n atal adrodd manylion ynglŷn â’r ddadl gyfreithiol sy’n ymwneud a thystiolaeth newydd yn yr achos.

Ond fe ellir adrodd y bydd yr erlyniad yn gwneud cais am gynnal achos o’r newydd, os yw Evans yn ennill ei apêl.