Syr John Chilcot
Nid oes disgwyl i adroddiad Chilcot i Ryfel Irac gael ei gyhoeddi cyn yr haf, meddai gweinidog yn swyddfa’r Cabinet.

Dywedodd John Penrose bod disgwyl i adroddiad Chilcot gael ei gyflwyno i’r Llywodraeth ar gyfer gwiriadau diogelwch wythnos nesaf ac mae disgwyl i’r broses gymryd bythefnos neu lai, fel yr oedd David Cameron wedi addo.

Ond fe fydd yn rhaid i gadeirydd yr ymchwiliad  Syr John Chilcot baratoi “rhan fawr” o’r adroddiad ar gyfer ei gyhoeddi ac fe fydd yn cyhoeddi dyddiad mwy penodol unwaith fydd y gwiriadau diogelwch wedi cael eu cwblhau. Serch hynny, y disgwyl yw mai ym mis Mehefin neu Orffennaf y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi.

Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol David Davis wedi dweud y byddai’n “annerbyniol” i deuluoedd y rhai fu farw yn Irac i gyhoeddi’r adroddiad ym mis Mehefin neu Orffennaf, ac mae wedi galw am ei ryddhau ar ôl i’r gwiriadau diogelwch gael eu cwblhau.