Mae un o undebau athrawon Cymru wedi mynegi pryder ynglŷn â’r broses o baratoi at gwricwlwm newydd Cymru fydd yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion erbyn 2018.
Yn ôl Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC), dy’n nhw ddim wedi gweld manylion eto ynglŷn â sut bydd y cwricwlwm yn cael ei weithredu, ac maen nhw’n galw am “hyfforddiant trwyadl” i staff ac “amserlen realistig” i’r cwricwlwm.
O ganlyniad, fe fydd athrawon o bob cwr o Gymru’n ymgynnull yn Llanelli yfory (dydd Gwener) i lunio eu cynigion ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.
Mae disgwyl i’r cwricwlwm newydd, sy’n seiliedig ar argymhellion yr Athro Donaldson, ‘Dyfodol Llwyddiannus’, gael ei gyflwyno erbyn 2018 a’i weithredu’n llawn erbyn 2021.
Ond, mae disgwyl i elfen y ‘Fframwaith Cymhwysedd Digidol’ gael ei gyflwyno mor fuan â mis Medi eleni.
‘Gweledigaeth ar ei phen ei hun ddim yn ddigon’
“Mae’r broses o greu cwricwlwm i Gymru yn un o’r newidiadau mwya’ a phwysica’ i addysg Cymru, ac mae potensial aruthrol gydag e,” meddai Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC wrth golwg360.
Dywedodd fod yr undeb wedi croesawu argymhellion yr Athro Donaldson, “ond dyw gweledigaeth ar ei phen ei hun ddim yn ddigon.”
Esboniodd fod yr elfen o gymhwysedd digidol yn cael ei gyflwyno ym mis Medi, gan olygu y bydd yn rhaid i bob athro gynnwys elfen ddigidol yn eu gwersi.
“Mae wir angen hyfforddiant yn hyn o beth,” meddai Rebecca Williams.
“Mae ’na bryder nad yw’r llywodraeth wedi darparu, nac yn ymwybodol o’r lefel o hyfforddiant, sydd ei angen.
“Dw i’n meddwl fod angen hyfforddiant ar bob un athro yng Nghymru, ac yn arbennig rhai sydd â sgiliau neu ddiffyg hyder mewn TGCh – o gymharu â disgyblion sydd â sgiliau digidol da.”
‘Newid byd’
Esboniodd Rebecca Williams y bydd natur addysgu yn gyffredinol yn newid, gyda “llai o bwyslais ar bynciau unigol.
“Fydd na fwy o ryddid i ganolbwyntio ar hanes lleol er enghraifft, sydd i’w groesawu.
“Ond, mae angen hyfforddiant eto ar gyfer hyn, oherwydd mae cenedlaethau o athrawon wedi arfer â’r hen gwricwlwm, a fydd hwn yn newid byd iddyn nhw.”
‘Angen cynllunio manwl’
Fel rhan o’r gynhadledd yfory a dydd Sadwrn, fe fydd yr athrawon yn llunio cyfres o gynigion yn ymwneud â’r cwricwlwm.
“Mae angen amserlen hollol realistig i’w gyflwyno, ac mae’n well peidio rhuthro a gwneud annibendod ohoni,” ychwanegodd Rebecca Williams.
“Dw i’n credu y gallai’r argymhellion yma wthio addysg Cymru i’r cyfeiriad cywir, ond mae angen cynllunio manwl.”
Mae siaradwyr gwadd y gynhadledd yn cynnwys Yr Athro Mererid Hopwood, Serena Davies o Ysgol Gyfun y Preseli a Dilwyn Owen o Ysgol Gyfun Bro Morgannwg.