Mae Cabinet Cyngor Powys wedi gorchymyn y dylai ysgol uwchradd yn y sir dalu arian yn ôl ar ôl ei ddefnyddio ar fysus i blant o Loegr, yn hytrach nag ar addysg.
Daw hyn wedi ymchwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru sy’n dangos bod Ysgol Uwchradd Llanfyllin wedi gwario £500,000 ar gludo 149 o ddisgyblion ar fysiau ysgol o Sir Amwythig dros gyfnod o bum mlynedd.
Yn ystod cyfarfod y Cabinet heddiw, fe wnaethon nhw gytuno y dylai’r ysgol ad-dalu 50% o’r cyllid – £17,000 – a gafodd ei neilltuo i drafnidiaeth o 1 Ebrill 2016.
Argymhellion eraill
Mae’r ffrae wedi arwain at un cynghorydd ac aelod cabinet, y Cynghorydd Darren Mayor, i ymddiswyddo yn dilyn penderfyniad y Cabinet ddiwedd mis Mawrth i orfodi’r ysgol i gydymffurfio â’i pholisi.
Mae argymhellion eraill y Cabinet yn cynnwys:
- Sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio â pholisïau Cyngor Sir Powys o ran trafnidiaeth erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.
- Galw ar Ysgol Uwchradd Llanfyllin i ddarparu tystiolaeth ddogfennol ar sut maen nhw’n cydymffurfio â rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd o ran trafnidiaeth ysgol yn gyffredinol – ac yn arbennig trefniadau rhwng y cartref a’r ysgol.
- Cynnal cyfarfodydd misol rhwng swyddogion y cyngor a chynrychiolwyr yr ysgol i adolygu gwariant a chyllid yr ysgol.