Rhodri Miller gyda'i gariad Alesha O'Connor a fu farw yn y gwrthdrawiad
Roedd gyrrwr ifanc wedi colli rheolaeth o’i gar ar ffordd yr A470 – gan ladd ei hun a thri o bobl eraill – ddeuddydd yn unig ar ôl iddo basio ei brawf gyrru, clywodd cwest heddiw.

Clywodd Llys y Crwner yn Aberdâr bod Rhodri Miller yn rhan o gonfoi o geir oedd yn teithio o’r Barri i Fannau Brycheiniog ar 6 Mawrth y llynedd pan fu ei gar mewn gwrthdrawiad a char arall oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall.

Bu farw Rhodri Miller, ei gariad Alesha O’Connor a’i ffrind Corey Price, ill tri yn 17 oed, yn y gwrthdrawiad.

Roedd Margaret Challis, 68, yn teithio yn y car arall, a oedd yn cael ei yrru gan ei chyfaill Emlyn Williams, ac yn dychwelyd adre ar ôl bod yn y theatr, pan gafodd ei lladd.

‘Hunllef pob rhiant’

Clywodd y cwest i farwolaeth y pedwar bod Rhodri Miller wedi bod yn gyrru “ychydig yn rhy gyflym” yn ystod y daith cyn y gwrthdrawiad ger Storey Arms.

Wyth munud cyn y gwrthdrawiad roedd car Volkswagen Golf Rhodri Miller wedi cyrraedd cyflymdra o 75mya, clywodd y gwrandawiad.

Ond nid oedd unrhyw dystiolaeth, meddai’r heddlu, bod Rhodri Miller yn mynd dros y cyfyngiad cyflymder o 60mya pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ond ei fod yn “gyrru’n rhy gyflym o ystyried ei allu.”

Mae’r heddlu’n credu ei fod wedi colli rheolaeth o’i gar wrth fynd heibio cornel ac wedi gwyro i ochr anghywir y ffordd, ac nad oedd yn ceisio pasio car arall.

Fe ddisgrifiodd y crwner Andrew Barkley y gwrthdrawiad fel “hunllef pob rhiant.”

Roedd yn “gyfuniad angheuol o ddiffyg profiad, y cyflymdra o ystyried amodau’r ffordd heriol, a rhywfaint o bwysau gan y bobl ifainc eraill,” meddai.

Fe gofnododd bod y pedwar wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad.