John Owen
Mae cyn-grwner o sir Gaerfyrddin wedi ennill cais i apelio yn erbyn ei ddedfryd o garchar am bum mlynedd – wedi iddo ddwyn tua £1m oddi ar ffermwr a oedd yn gleient iddo.
Cafodd William John Owen, 81 oed o Landeilo, ddedfryd o bum mlynedd o garchar yn dilyn achos yn Llys y Goron Caerdydd yn 2014.
Fe blediodd y gŵr yn euog i 17 cyhuddiad o ladrata a chadw cyfrifon ffug ar ôl cael ei benodi’n gyfrifol am ddosrannu ewyllys y ffermwr, John Williams.
Cafodd ei arestio ym mis Rhagfyr 2011, yn dilyn honiadau o anghysonderau ariannol yn ei gwmni cyfreithwyr.
Yna, ym mis Mai’r llynedd, fe gafodd ei enw ei dynnu oddi ar restr cyfreithwyr.
Yn Llys yr Apêl heddiw, fe lwyddodd i ennill yr hawl i apelio yn erbyn ei ddedfryd, ac nid oes dyddiad wedi ei bennu eto ar gyfer yr apêl.