Rhodri Miller gyda Alesha O'Connor fu farw yn y gwrthdrawiad
Mae’r cwest i farwolaeth pedwar o bobl a fu farw ar yr A470 ym Mhowys y llynedd wedi clywed honiadau fod y gyrrwr 17 oed wedi pasio ei brawf gyrru “ddeuddydd ynghynt.”

Yn Llys y Goron Aberdâr heddiw, mae tystion wedi bod yn cyflwyno tystiolaeth ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd ar 6 Mawrth 2015 ger Storey Arms, Aberhonddu.

Bu farw Alesha O’Connor, Rhodri Miller a Corey Price – ill tri yn 17 oed, ynghyd â Margaret Challis, 68, oedd yn teithio yn y car arall.

Un o’r tystion oedd Rhys Hunter a fu’n teithio yn yr un car â’r bobol ifanc.

Fe ddywedodd wrth y llys fod gan y gyrrwr, Rhodri Miller, “ychydig iawn o brofiad o yrru.”

Clywodd y llys hefyd fod y criw yn rhan o “gonfoi” o geir oedd yn teithio ar hyd y ffordd.

Fe wnaeth Emlyn Williams a oedd yn teithio yn y car arall gyda Margaret Challis hefyd roi tystiolaeth, ynghyd â’r Heddwas David Stacey a fu’n ymchwilio i’r achos.

Mae’r cwest yn parhau.