Mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) wedi israddio ei rhagolygon ar gyfer twf economaidd yn y DU yn sgil pryderon am yr effaith y gall pleidlais o blaid Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) ei gael.

Mae’r corff ariannol rhyngwladol wedi rhybuddio y gallai gadael yr UE achosi “difrod sylweddol yn rhanbarthol a rhyngwladol” drwy amharu ar gysylltiadau masnachol.

Fe allai gymryd peth amser i drafod y  trefniadau ynglŷn â gadael yr UE gan arwain at “gyfnod hir” o ansefydlogrwydd a allai effeithio hyder a buddsoddiad, meddai’r IMF.

Mae rhagolygon yr IMF ar gyfer twf economaidd y DU ar gyfer 2016 wedi gostwng 0.3% i 1.9% ond mae ei rhagolygon ar gyfer twf yn 2017 wedi aros yr un fath ar 2.2%.

Dywedodd y Canghellor George Osborne fod adroddiad yr IMF yn “rybudd clir” o’r risgiau o adael yr UE yn y refferendwm ar 23 Mehefin.

Ond mae ymgyrchwyr o blaid Prydain yn gadael yr Undeb wedi cyhuddo’r IMF o fod yn “anghywir” ynglŷn â’r rhagolygon yn y  gorffennol ar gyfer y DU ac nad oedd unrhyw “dystiolaeth gadarn” bod y refferendwm wedi achosi ansefydlogrwydd ymhlith busnesau.