Mae’r Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid wedi dweud bod Llywodraeth San Steffan yn ystyried buddsoddi ar y cyd gyda phrynwr ar delerau masnachol er mwyn achub y gwaith dur ym Mhort Talbot.
Fe wnaeth y cyhoeddiad yn y Senedd prynhawn ma.
Yn y cyfamser mae cwmni dur Tata wedi dweud eu bod wedi bod mewn cysylltiad â “degau” o brynwyr posib ar gyfer eu safleoedd yn y DU.
Daw hyn wedi i’r cwmni arwyddo cytundeb i werthu ei fusnes Long Products Europe, sy’n cynnwys y gwaith dur yn Scunthorpe, i gwmni buddsoddi Greybull Capital.
Ond, yn ôl Koushik Chatterjee, cyfarwyddwr grŵp gweithredol Tata, bwriad y cwmni yw gwerthu’r asedau fel un yn hytrach na gwahanu’r busnes.
Bydd cytundeb Long Products Europe yn diogelu miloedd o swyddi yn y DU, ac yn cynnig gobaith i’r safleoedd eraill gan Tata.
Er hyn, dywedodd Koushik Chatterjee fod Tata fod y busnes, gan gynnwys gwaith dur Port Talbot, yn gwneud £1 miliwn o golled y dydd yn y DU a bod y diwydiant dur yn wynebu’r argyfwng mwyaf mewn 50 mlynedd.
‘Prynwyr posib’
Does dim amserlen eto pa bryd fydd y gwerthu swyddogol yn digwydd, ond mae disgwyl iddo ddigwydd mewn tri cham, gan ddechrau gyda lansiad y broses swyddogol heddiw.
Mae wedi dod i’r amlwg hefyd fod mwy na dau gwmni wedi mynegi diddordeb yng ngweithfeydd Tata.
Does dim prisiau yn cael eu crybwyll eto yn y dogfennau sy’n cael eu hanfon at y prynwyr posib.
Ychwanegodd Koushik Chatterjee na fyddai’n disgrifio penderfyniad Tata i brynu’r diwydiant dur gan Corus yn 2007 fel camgymeriad.