Mae gwerthiant gwaith dur Tata yn Scunthorpe wedi cael ei gadarnhau, gan ddiogelu miloedd o swyddi.

Fe gyhoeddodd y cwmni ei fod wedi arwyddo cytundeb i werthu ei fusnes Long Products Europe, sy’n cynnwys y gwaith dur yn Scunthorpe, i gwmni buddsoddi Greybull Capital.

Mae’r cytundeb yn cynnwys nifer o asedau yn y DU, gan gynnwys Scunthorpe, dwy ffatri yn Teesside, safle yn Workington, a Chaer Efrog.

Fe fydd y cytundeb yn cael ei gwblhau unwaith y bydd nifer o amodau wedi cael eu datrys, gan gynnwys sicrhau cymeradwyaeth y Llywodraeth a chwblhau trefniadau ariannol.

Mae’r busnes Long Products Europe yn cyflogi 4,800 o bobl – 4,400 yn y DU a 400 yn Ffrainc.

Dywedodd cadeirydd Long Products Europe Bimlendra Jha, bod heddiw yn nodi “carreg filltir bwysig” yng ngwerthiant y busnes ac y byddai’n sicrhau dyfodol miloedd o weithwyr “sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau dyfodol y busnes.”

Dywedodd Greybull yn bydd y busnes yn cael ei alw’n British Steel.

Hyd yn hyn, dim ond cwmni Liberty Steel sydd wedi dangos diddordeb mewn prynu safle dur Port Talbot, sy’n cyflogi 4,000 o weithwyr.

Mae gweithwyr yn safleoedd Llanwern, Trostre a Shotton, gan gynnwys trefi eraill y tu allan i Gymru, hefyd yn wynebu dyfodol ansicr.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid bod y cyhoeddiad heddiw yn “gam yn y cyfeiriad cywir ar gyfer dyfodol hir dymor ar gyfer cynhyrchu dur o Brydain yn Scunthorpe.”

Ychwanegodd: “Mae Llywodraeth y DU a Chymru yn gweithio’n ddiflino i gefnogi Tata er mwyn dod i gytundeb ar gyfer Port Talbot a’u safleoedd eraill ar draws y DU. Mae’r cytundeb yma yn anfon arwyddion positif i unrhyw fuddsoddwyr posib ar gyfer gweddill busnes Tata yn y DU.”