Gwaith dur Port Talbot
Mae disgwyl i gwmni dur Tata ddechrau ar y broses ffurfiol o werthu ei safleoedd dur ym Mhrydain heddiw, gan gynnwys pedwar safle yng Nghymru, lle mae dyfodol miloedd o weithwyr yn y fantol.
Hyd yn hyn, dim ond cwmni Liberty Steel sydd wedi dangos diddordeb i brynu safle dur Port Talbot, sy’n cyflogi 4,000 o weithwyr.
Mae gweithwyr yn safleoedd Llanwern, Trostre a Shotton, gan gynnwys trefi eraill y tu allan i Gymru, hefyd yn wynebu dyfodol ansicr.
Yn Lloegr, mae disgwyl i broses gwerthu safle Tata yn Scunthorpe gael ei gwblhau heddiw, gyda chwmni Greybull Capital yn cymryd yr awenau yno.
Sajid Javid yn cwrdd ag ASau
Bydd Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth Prydain, Sajid Javid, yn cyfarfod ag Aelodau Seneddol etholaethau heddiw sydd wedi cael eu heffeithio gan benderfyniad Tata fis diwethaf i werthu ei holl safleoedd yn y DU.
Mae disgwyl i gynrychiolwyr Tata fod yn bresennol hefyd.