Howard Marks
Mae Howard Marks, y smyglwr cyffuriau, yr awdur ac ymgyrchydd o Gymru, wedi marw yn 70 oed.
Fe gyhoeddodd Marks, a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Mr Nice, bod ganddo ganser y coluddyn nad oedd posib ei drin, y llynedd.
Cafodd Marks ei eni ym Mynydd Cynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr, gan astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, cyn dod yn un o’r smyglwyr cyffuriau mwyaf adnabyddus yn y byd.
Cafodd ei ddal yn 1988 gan yr awdurdodau yn America a’i ddedfrydu i 25 mlynedd dan glo yng ngharchar Terre Haute yn Indiana.
Ar ôl treulio saith mlynedd yn y carchar cafodd ei ryddhau ar barôl yn 1995 ac ar ôl hynny bu’n ymgyrchu i gyfreithloni canabis.
Bu’r actor Rhys Ifans yn chwarae Marks mewn ffilm am ei fywyd yn 2010, a oedd yn seiliedig ar ei hunangofiant ‘Mr Nice’ a gyhoeddwyd yn 1996.
Dywedodd ei gyfaill a chyd-weithiwr yng nghylchgrawn Loaded, James Brown wrth The Guardian, bod Marks yn “wir arwr yr oes fodern” ac wedi gwneud “cymaint o bethau doniol, syfrdanol ac anghyfreithlon.”
Mewn cyfweliad gyda The Observer ym mis Ionawr 2015, dywedodd Marks: “Mae’n amhosib i fi edifar am unrhyw ran o fy mywyd pan dwi’n teimlo’n hapus a dwi yn hapus rŵan.”
Mae’n gadael pedwar o blant.