Gyda llai na mis tan etholiad y Cynulliad, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo i roi’r gair olaf ar ad-drefnu llywodraeth leol i’r cyhoedd.
Maen nhw’n dweud mai nhw yw’r unig blaid fydd yn cynnig refferenda i bobol Cymru ar uno cynghorau sir pe bai nhw mewn grym yn nhymor nesaf y Cynulliad.
Yn ôl y Ceidwadwyr, bydd cynigion Llafur i ad-drefnu ffiniau awdurdodau lleol yn newid y map Cymreig yn ddramatig.
O dan eu cynlluniau, gallai cynghorau gynnig uno gwirfoddol, ond byddai’n rhaid i’r penderfyniad gael ei drosglwyddo i refferendwm o drigolion lleol.
Meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros awdurdodau lleol, Janet Finch-Saunders: “Mae Llafur wedi ymrwymo’n llwyr i orfodi ad-drefnu llywodraeth leol, ac yn wahanol i’r Ceidwadwyr Cymreig maen nhw’n gwrthod rhoi’r gair olaf i gymunedau lleol mewn refferendwm.
“Gallai hynny olygu diwedd ar ardaloedd Cymreig hanesyddol gyda hunaniaethau lleol gwahanol – o Gonwy yn y gogledd, i Sir Fynwy, Bro Morgannwg, a Sir Benfro yn y de.
“Byddai Llywodraeth Geidwadol Cymru yn gwrando ar y bobl ac ni fyddem yn caniatáu i uno ddigwydd oni bai fod trigolion lleol yn cytuno.”