(llun gan Lywodraeth Cymru)
Mae Plaid Cymru’n galw am wireddu targed ‘dim gwastraff’ ar gyfer sbwriel erbyn 2030 – 20 mlynedd cyn y flwyddyn darged bresennol o 2050.

Amlinellodd Llyr Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru dros gymunedau cynaliadwy, sut y byddai llywodraeth Plaid Cymru’n gweithio gyda chynhyrchwyr i leihau gwastraff pecynnau.

Gyda cyfuniad o ddeddfwriaeth a mentrau polisi – fel gwahardd Styrofoam mewn siopau a gofyn i holl napcynau a llestri mewn sefydliadau bwyd fod yn ailgylchadwy – mae’r blaid yn gobeithio newid agweddau Cymruu tuag at wastraff.

Dywedodd Llyr Gruffydd: “Rydym yn benderfynol i leihau faint o wastraff a gynhyrchir yng Nghymru, a byddai’r cynlluniau uchelgeisiol hyn yn cyflawni targed sero gwastraff i gladdfa sbwriel erbyn 2030 – ddegawdau’n gynharach na’r targed presennol o 2050.

“Mae gennym oll ran i’w chwarae – llywodraeth, adwerthwyr, manwerthwyr a’r cyhoedd – a bydd ein cynlluniau yn ein galluogi i weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r amcan hon.

“Gan weithio gyda chynhyrchwyr a manwerthwyr, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn darparu’r gefnogaeth a’r arweinyddiaeth sydd ei angen i leihau pecynnu di-angen ar gynnyrch bob dydd – gan dorri cyfanswm y gwastraff yn y man cychwyn.

“Mae Plaid Cymru yn llawn dderbyn ein cyfrifoldeb i’r amgylchedd a sicrhau dyfodol gwyrddach i’n plant.”