Mae’r heddlu’n ymchwilio i honiadau bod cath fawr yn crwydro Eryri.
Yn ôl yr heddwas Rob Taylor sy’n gweithio i adran troseddu gwledig Heddlu Gogledd Cymru, roedd yr heddlu wedi cael adroddiad am y gath fawr ger Llanberis fore ddoe.
Ond mae’n ymddangos bod gan yr heddwas ei amheuon wrth iddo ddweud ar wefan Twitter nad oedd wedi gweld “unrhyw lun na thystiolaeth fideo” a bod adroddiadau eraill yn y gorffennol wedi cael eu gwrthbrofi.
Mae llawer o adroddiadau o gathod mawr yn crwydro cefn gwlad Cymru wedi bod dros y blynyddoedd gan gynnwys yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac yn Y Mynyddoedd Duon.
Er nad oes un wedi cael ei ddal erioed, mae rhai’n credu bod cathod mawr a oedd yn anifeiliad anwes wedi cael eu rhyddhau i’r gwyllt gan eu perchnogion am na allent fodloni rheoliadau llym a osodwyd gan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976.
Y gred yw bod y cathod wedi paru a magu yn y gwyllt.