Helen Jenkins (llun o'i gwefan)
Mae Helen Jenkins wedi cryfhau ei siawns o ennill lle yn nhîm triathlon Prydain yn y Gemau Olympaidd ar ôl buddugoliaeth nodedig yn y Gold Coast yn Awstralia.
Hon oedd yr ail triathlon byd i’r Gymraes o Benybont ar Ogwr ennill y tymor yma.
Fe fydd dewiswyr ar gyfer y Gemau Olympaidd yn penderfynu yr wythnos nesaf pwy fydd yn ymuno â’r Gymraes arall Non Stanford a Vicky Holland yn y tîm o dri yn Rio.
Llwyddodd Helen Jenkins i gwblhau’r triathlon yn y Gold Coast mewn awr 56 munud a 3 eiliad – a churo’r bencampwraig byd Gwen Jorgensen o 41 eiliad.
“Alla i prin gredu’r peth,” meddai Helen Jenkins. “Fe es i’r ras a mynd amdani. Ond drwy’r adeg ro’n i’n disgwyl am Gwen, oherwydd allwch chi byth anghofio pa mor gyflym yw hi.”
Roedd ei phrif gystadleuydd yn ei herbyn am ei lle yn nhîm Olympaidd Prydain, sef Jodie Stimpson, a ddaeth yn 12fed, dri munud yn arafach na hi.
Wrth ganmol perfformiad Helen Jenkins, meddai Cyfarwyddwr Perfformiad Triathlon Prydain, Brendan Purcell:
“Fe wnaeth Helen ddangos yr hyn mae hi’n gallu ei wneud, ac mae hi wedi llwyddo’n arbennig o dda ar ôl blynyddoedd o gryfhau ar ôl anaf.”