Y criw cyn mynd i Calais
Mae grŵp aml ffydd o Gymru yn ymweld â Ffrainc y penwythnos hwn i ddarparu cymorth yn y gwersylloedd ffoaduriaid o gwmpas Calais a Dunkirk.
Ymysg y criw mae Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, ac mae’r daith yn cael ei harwain gan Sara Roberts, Darllenydd Lleyg gyda’r Eglwys yng Nghymru sy’n ymweld â’r gwersylloedd am y trydydd tro.
Mae Sara Roberts yn un o sefydlwyr tudalen Facebook Pobl i Bobl (Cymorth i Ffoaduriaid Gogledd Cymru) sydd wedi bod yn casglu nwyddau i’w cludo i Ffrainc ers yr haf y llynedd.
Nod y daith yw cael cipolwg ar y sefyllfa yno ar hyn o bryd a darganfod ffyrdd mwy effeithiol o helpu’r ffoaduriaid pan fyddan nhw’n dychwelyd i Gymru – gan gynnwys gweithio â gwirfoddolwyr tymor hi yn y gwersylloedd i drefnu digwyddiadau i godi arian.
Hefyd yn rhan o’r grŵp aml-ffydd/dim ffydd, mae un Bwdist, Crynwyr, aelodau o’r Eglwys Pentecostaidd, Mwslemiaid a dau anffyddiwr. Maen nhw’n dod yn bennaf o ogledd Cymru.
Dywedodd Sara Roberts hefyd eu bod nhw eisiau codi mwy o ymwybyddiaeth yng Nghymru am y sefyllfa yn y jyngl.
“’Dw i’n edrych ymlaen unwaith eto at rannu’r anrhegion, a gasglwyd o Ogledd Cymru, gyda phlant, menywod a dynion sydd eu hangen gymaint,” meddai Sara Roberts.
“Byddwn hefyd yn ymweld â chegin maes gwirfoddol sy’n helpu i fwydo ffoaduriaid, yn ogystal â chyfarfod gobeithio gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol yn Ffrainc.
“Dw i wedi bod yno ddwywaith o’r blaen, ond dim ers i’r awdurdodau ddymchwel rhan ddeheuol y gwersyll yn Calais fis diwethaf. Dw i’n meddwl y bydd hi’n sioc gweld y newidiadau.”
Dywedodd Esgob Bangor, Andy John: “Mae’n fraint i fod yn rhan o grŵp o Gristnogion, Mwslemiaid a phobl Fwdhaidd, yn ogystal â’r rheiny sydd heb ffydd, o ogledd Cymru, a fydd yn cyflwyno cymorth, a mynegi ein cariad ar gyfer ein chwiorydd a brodyr.”