Mae naw o ddynion a gafwyd yn euog o droseddau rhyw yn erbyn merch yn ei harddegau yn Rochdale, wedi cael eu dedfrydu i garchar am hyd at 25 mlynedd.
Cerddodd y ferch i mewn i orsaf yr heddlu yn fuan ar ôl i’r cyfryngau roi sylw eang yn 2012 i achos llys nifer o ddiffynyddion Asiaidd, a oedd wedi meithrin perthynas amhriodol gyda merched gwyn yn y dref er mwyn eu defnyddio i gael rhyw.
Dywedodd y ferch wrth yr heddlu bod nifer fawr o ddynion yn Rochdale wedi cymryd mantais ohoni ers pan oedd hi’n 14 mlwydd oed.
Dywedodd y byddai “cannoedd” o ddynion yn ei ffonio eisiau iddi gael rhyw gyda nhw.
Digwyddodd y troseddau, oedd hefyd yn cynnwys dioddefwyr dan oed eraill, yn Rochdale a’r ardal gyfagos, a hynny yn bennaf rhwng 2005 a 2010.
Cafodd naw o’r diffynyddion eu dedfrydu ym Manceinion heddiw, tra bod dyn arall wedi ei garcharu’r llynedd.
Anawsterau dysgu
Roedd y dioddefwr gwyn gydag anawsterau dysgu a chlywodd y llys ei bod yn “ferch ifanc oedd yn agored i niwed” sydd wedi dioddef “bywyd cartref anodd iawn”.
Rhoddodd dystiolaeth mewn dau achos gwahanol a barhaodd gyfanswm o 15 wythnos.
Fe wnaeth saith merch arall, a oedd rhwng 13 a 22 mlwydd oed ar y pryd, roi tystiolaeth hefyd a sicrhaodd gollfarnau yn erbyn nifer o’r diffynyddion, a oedd i gyd o dras Pacistanaidd neu Fangladeshaidd.
Cafodd y dynion, sydd rhwng 27 a 46 mlwydd oed, eu dedfrydu i rhwng pump a 25 mlynedd o garchar.