Edwina Hart - fe fydd ei holynydd yn gorfod ystyried dau gynllun
Fe fydd Llywodraeth newydd Cymru’n ystyried dau gynnig newydd i geisio achub cynllun y cylch rasio ym Mlaenau Gwent.
Fe ddatgelodd cwmni Circuit Wales eu bod nhw wedi addasu eu gofynion ar ôl i’r Gweinidog Economi ddweud na fedrai’r Llywodraeth roi gwarant 100% i’r buddsoddiad.
Fe fydd y cynlluniau newydd ar ddesg y Gweinidog nesa’ yn gofyn am warant o lai nag 80% ar gyfer y cynllun sy’n debyg o gostio £357 miliwn.
Rheolau
Yn ôl y cwmni fe fyddai hynny’n ei gwneud hi’n haws i gyfiawnhau’r gefnogaeth dan reolau’r Undeb Ewropeaidd.
Maen nhw’n dweud y byddai’r trefniant yn debyg o gael ei herio o dan gyfyngiadau ar gefnogaeth gan lywodraethau.
Fe ddywedodd Prif Weithredwr Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd, Michael Carrick, na fyddai’r gefnogaeth yn dechrau nes bod y gwaith adeiladu wedi’i orffen, fel bod yr asedau ar gael i’r Llywodraeth.
Ond mae arbenigwyr yn y maes rasio ceir hefyd wedi codi amheuon am allu’r cynllun i dalu ei ffordd ac roedd y Gweinidog, Edwina Hart, wedi dweud bod gormod o risg ynglŷn â’r gefnogaeth.